Mawrth, 2 Gorffennaf 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu eiddo yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd? OQ61368
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r economi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61374
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Torïaid, y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad pobl o'r tu allan i Brydain Fawr sy'n gweithio yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru? OQ61358
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau bysiau? OQ61397
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Ysbyty Glan Clwyd? OQ61373
6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch trwyddedu arfau tanio yng Nghymru? OQ61356
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bysiau? OQ61394
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar Tata Steel. Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud ei ddatganiad,...
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y cynnydd o ran diwygio'r cwricwlwm a'r camau nesaf. Ac felly Lynne Neagle i gyflwyno'r datganiad yma.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu dolur rhydd feirysol...
Eitem 6 heddiw yw Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Eitem 7 yw'r cynnig i amrwyio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i wneud y...
[Anghlywadwy.]—y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Grŵp 1 yw'r grŵp cyntaf o welliannau sy'n ymwneud â Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, swyddogaethau'r comisiwn hwnnw. Gwelliant 26 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. A...
Grŵp 2 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chofrestru etholiadol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant a Peter Fox sy'n cynnig y gwelliant yma. Peter Fox.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3. Y grŵp yma yn ymwneud â phwerau a rheoliadau peilot etholiadau Cymreig. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Peter Fox i...
Grŵp 4 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r rheoliadau diwygio etholiadau. Gwelliant 13 yw'r prif welliant. Peter Fox i gynnig y gwelliant yma. Peter Fox.
Grŵp 5 o welliannau sydd nesaf. Y grŵp yma yn ymwneud â chymorth i bleidleiswyr ag anableddau. Peter Fox sydd yn cyflwyno'r prif welliant, gwelliant 15. Peter Fox.
Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag amrywiaeth ymhlith personau sy'n ceisio swydd etholedig. Gwelliant 16 yw'r prif welliant a'r unig welliant. Peter...
Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â phlatfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig. Gwelliant 17 yw'r prif welliant. Peter Fox i gynnig y gwelliant.
Y grŵp nesaf o welliannau fydd yr wythfed grŵp, ac mae rhain yn ymwneud â'r cynllun cymorth ariannol a gweithredu hynny. Gwelliant 35 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Adam Price...
Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â gofynion o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau. Gwelliant 37 yw'r prif welliant. Adam Price i gyflwyno'r ddadl yma.
Grŵp 10 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag adolygiadau o drefniadau etholiadol. Gwelliant 2 yw'r prif welliant. Y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno'r gwelliant yma. Mick Antoniw.
Y grŵp nesaf fydd grŵp 11. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â chyhoeddi manylion cyswllt cynghorau cymuned. Gwelliant 39 yw'r prif welliant a'r unig welliant. Adam Price i gynnig y...
Grŵp 12 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol aelodau...
Grŵp 13 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â bwrdd taliadau annibynnol y Senedd. Gwelliant 42 yw'r prif welliant. Adam Price sy'n cynnig y gwelliant.
Grŵp 14 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud ag anghymwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru neu lywodraeth leol. Gwelliant 20 yw'r prif welliant. Peter Fox i gyflwyno'r gwelliant yma.
Grŵp 15 sydd nesaf, a'r grŵp yma'n ymwneud ag anghymwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru oherwydd y drosedd o ddichell. Felly, gwelliant 43 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Adam...
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cynyddu gwariant cyhoeddus?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia