Mawrth, 25 Mehefin 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau heddiw, mae'n bleser gen i i hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)...
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, John Griffiths.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd incwm isel ar draws Dwyrain Casnewydd? OQ61350
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl â thiwmor ar yr ymennydd? OQ61353
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd yng ngogledd Cymru? OQ61355
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban yng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofn? OQ61331
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru? OQ61316
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru? OQ61321
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu ar draws ysgolion yn Islwyn? OQ61333
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru? OQ61352
Y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol sydd nesaf, a'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli plismona a chyfiawnder? OQ61323
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ôl-groniad achosion mewn llysoedd yng Nghymru? OQ61314
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r cymorth sydd ar gael i drigolion Cymru ar gyfer treuliau cyfreithiol? OQ61315
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru am dystiolaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru i ymchwiliad COVID y DU ynghylch negeseuon wedi'u dileu? OQ61319
5. Beth mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud i wella mynediad at gyngor cyfreithiol am ddim ledled Cymru, yn dilyn toriadau i Gyngor ar Bopeth? OQ61328
6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar y potensial o rannu penderfyniadau gyda Llywodraeth y DU ar gronfeydd sy’n cymryd lle rhai’r UE?...
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar sicrhau bod offerynnau statudol Cymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg? OQ61305
8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch goblygiadau Deddf Meinweoedd Dynol 2004 ar y ffordd y mae cyrff...
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd a'r Prif Chwip fydd yn gwneud y datganiad yma. Jane Hutt.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar 'Cymraeg 2050' a blaenoriaethau. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: system fwyd Cymru—cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—2024-25. Galwaf ar...
Eitem 7 sydd nesaf. Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 yw'r rhain. Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder...
Yr eitem nesaf fydd y cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig hwn.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gwaith teg yng Ngogledd Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i gyfeirio unrhyw un o filiau diwygio'r Senedd i'r Goruchaf Lys i sicrhau eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Senedd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia