Mercher, 22 Mai 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth. Mae'r cwestiwn cyntaf...
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella'r gwasanaeth bysiau yng Nghaerdydd? OQ61174
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o gerbydau eco-gyfeillgar ar y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru? OQ61139
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau rheilffyrdd dibynadwy i gymunedau gwledig? OQ61170
4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sefydliadau trafnidiaeth gymunedol? OQ61151
5. A all yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru ? OQ61128
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu prosiectau ffyrdd yn Sir Benfro? OQ61124
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Nwyrain De Cymru? OQ61130
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Buffy Williams.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyllid ar gyfer y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol? OQ61132
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i amgueddfeydd lleol yn Aberconwy? OQ61126
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y paratoadau ar gyfer datganoli'r gwasanaeth prawf yng Nghymru? OQ61141
4. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl anabl? OQ61173
5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y pwysau cyllidebol y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eu hwynebu? OQ61168
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fynediad at wasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw? OQ61123
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater o stelcio? OQ61171
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? OQ61167
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Y cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Janet Finch-Saunders ac i'w ofyn gan Carolyn Thomas.
1. Sut y mae Comisiwn y Senedd yn hyrwyddo pwysigrwydd cynaliadwyedd a diogelu'r amgylchedd naturiol ar ystâd y Senedd? OQ61138
2. Pa drafodaethau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cael â'r Bwrdd Taliadau ynghylch effaith y cynnydd yn y dreth gyngor ar gyllideb Comisiwn y Senedd? OQ61177
3. Sut mae Comisiwn y Senedd yn sicrhau bod pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw yn gallu cymryd rhan weithredol yng ngwaith y Senedd? OQ61149
4. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau buddsoddi moesegol ei gronfa bensiwn? OQ61163
5. Pa waith y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i wneud ystâd y Senedd yn ddementia-gyfeillgar? OQ61159
Eitem 4 heddiw yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad ar yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig? TQ1093
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dod i ben? TQ1095
3. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am ddynodi safle Wylfa fel dewis cyntaf ar gyfer datblygu gorsaf bŵer niwclear? TQ1096
Item 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac, yn gyntaf, Peredur Owen Griffiths.
Eitem 6 yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Eitem 7 sydd nesaf, y ddadl ar y ddeiseb, 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'. I gyflwyno'r ddadl yma ac i wneud y cynnig,...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais....
Galwaf ar Joyce Watson.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol ymhlith pobl ifanc?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia