Mawrth, 21 Mai 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd pwyllgor. Felly, dwi nawr yn gwahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol Cadeirydd y Pwyllgor...
Felly, yr eitem nesaf ar yr agenda fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Darren Millar.
1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau gofal iechyd i breswylwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych? OQ61178
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am gynllun gweithredu strategol y Llywodraeth ar gyfer urddas mislif? OQ61180
Cwestiynau nawr gan arweinwr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar honiadau o gamdrin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yn y gogledd? OQ61181
4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd menywod? OQ61131
5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno cymorth hyfforddiant mewn swydd fel rhan o gynigion yn y dyfodol ar gyfer ei rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys ReAct...
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag seiberymosodiadau? OQ61165
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith Cwmni Egino? OQ61164
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial yng Nghymru? OQ61150
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Luke Fletcher.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli'r system gyfiawnder? OQ61160
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch argymhelliad UNESCO ar foeseg deallusrwydd artiffisial? OQ61142
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
3. Pa wersi y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y gellid eu dysgu o etholiadau diweddar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ynghylch sut i ymgysylltu'n well â'r cyhoedd mewn etholiadau? OQ61135
4. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i rwystro gwydr rhag...
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar absenoldeb y diffiniad o ddyn ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)? OQ61127
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch nifer y dinasyddion o Gymru y mae eu henwau ar goll o'r gofrestr etholiadol? OQ61157
7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru? OQ61129
Eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog, Dawn Bowden.
Mae eitem 5 wedi'i ohirio tan 4 Mehefin.
Felly, eitem 6 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fframwaith imiwneiddio cenedlaethol Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Eluned Morgan.
Eitem 7 sydd nesaf. Y Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yw'r rheoliadau yma. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud...
Y cyfan sy'n weddill i fi ei wneud yw datgan canlyniad y bleidlais ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Fe gafodd Alun Davies 26 o bleidleisiau, fe gafodd...
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Chyngor Sir Ddinbych ynglŷn â meddiannaeth adeilad Marchnad y Frenhines yn y Rhyl?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia