Mercher, 15 Mai 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan...
1. Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei rhoi i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru? OQ61083
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adolygu fframwaith cyllidol Cymru? OQ61092
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch symiau canlyniadol Barnett i Gymru o ganlyniad i ariannu gofal plant yn Lloegr? OQ61087
4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer masnachfreinio bysiau? OQ61110
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau ei pholisïau caffael? OQ61082
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i ddiwygio'r system ardrethi annomestig? OQ61095
7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r cyllid y mae Cymru wedi'i golli o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn gwrthod dosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig? OQ61108
8. Pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella gallu'r Senedd i ddylanwadu ar y broses o lunio cyllideb y Llywodraeth? OQ61102
Y cwestiynau nesaf fydd i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.
1. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gael gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg am effaith cynlluniau i adeiladu gorsafoedd nwy yn Arfon ar dargedau...
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynllun dychwelyd ernes Llywodraeth Cymru? OQ61100
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet egluro'r rhesymeg dros y gwahaniaethau mewn cyfraddau talu ar gyfer gwahanol fathau o dir o dan gynllun cymorth organig 2024? OQ61103
4. Beth yw blaenoriaethau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro? OQ61079
5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd prosiectau bioamrywiaeth yng ngogledd Cymru? OQ61086
6. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella diogelwch dŵr ac atal boddi? OQ61111
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghanol De Cymru? OQ61097
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddefnyddio'r brechlyn TB buchol i wartheg? OQ61107
Y cwestiwn amserol heddiw yw'r cwestiwn i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r cwestiwn i'w ofyn gan Luke Fletcher.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y materion sydd wedi dod i'r amlwg yng Ngharchar Parc EF? TQ1083
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf fydd gan Jack Sargeant.
Aelod o'r Pwyllgor Busnes felly i wneud y cynigion yn ffurfiol. Heledd Fychan.
Yr eitem nesaf fydd dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar reoli cynhyrchion tybaco a nicotin, a Mabon ap Gwynfor sy'n cyflwyno'r cynnig yma.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 'Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, roedd 20 yn ymatal, a phedwar yn erbyn. Felly, mae'r...
Eitem 9 yw'r ddadl fer, a galwaf ar Cefin Campbell i siarad am y pwnc. Cefin.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau trethi ar y sector twristiaeth?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet nodi ei flaenoriaethau ar gyfer gwella lles anifeiliaid?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia