Mawrth, 14 Mai 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Cyn i ni gymryd yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, a gaf i hysbysu Aelodau, wrth gwrs, taw 25 mlynedd i ddoe y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cynulliad yn Siambr Tŷ...
Yr eitem nesaf, felly—yr un gyntaf—fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd yng ngogledd Cymru? OQ61115
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y plant oedran ysgol gynradd sy'n gallu nofio? OQ61121
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Beth yw polisi'r Llywodraeth ar bwerdai nwy newydd yn Arfon? OQ61090
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau pam nad oes Gweinidog penodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? OQ61109
5. Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei chael o ran meithrin ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion? OQ61106
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru? OQ61114
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth gofal cenedlaethol? OQ61089
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei gyfarfod â Tata ym Mumbai? OQ61118
Yr eitem nesaf fydd y datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Jane Hutt.
Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifenydd y Cabinet dros Addysg: ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne...
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. Felly, Huw Irranca-Davies i wneud y datganiad yma.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar ar wella iechyd meddwl yng Nghymru. Y Gweinidog, felly, Jayne Bryant.
Eitem 6 yw datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel. Vaughan Gething, felly, i wneud y datganiad.
Yr eitem nesaf fydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg sy'n gwneud y cynnig yma....
Yr unig bleidlais y prynhawn yma yw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol rŷn ni newydd ei glywed, ac felly dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y...
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cymorth hyfforddi swyddi ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy holl raglenni cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia