Mercher, 31 Ionawr 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark...
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi ar waith er budd pobl anabl yng Nghymru? OQ60590
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60612
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus? OQ60622
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith mesuryddion rhagdalu ar dlodi tanwydd? OQ60608
5. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i effaith argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol? OQ60594
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60599
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r cysylltiad rhwng tlodi a'r lefel uchel o ysmygu ymysg merched beichiog yn Arfon? OQ60597
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol? OQ60619
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Y cwestiwn cyntaf, Jack Sargeant.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o nifer y trigolion yng Nghymru y mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post wedi effeithio arnynt? OQ60616
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar ddatganoli polisi ynni? OQ60602
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn ag ymgyrch Hillsborough Law Now? OQ60615
4. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar ddatganoli plismona i Gymru? OQ60614
7. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganfyddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru o ran egwyddor cydsyniad deddfwriaethol? OQ60627
8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar gleifion o Gymru sy'n defnyddio gwasanaethau yng ngwledydd eraill y DU?...
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae'r cwestiynau heddiw i'w hateb gan y Llywydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu haddysgu am rôl y Senedd? OQ60606
2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i annog ysgolion yn Nyffryn Clwyd i ymweld â'r Senedd? OQ60626
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi, ac mae Joyce Watson i ofyn y cwestiwn. Joyce Watson.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn perthynas â Fferm Gilestone yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2024? TQ969
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o ran y cytundeb i adfer llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon? TQ974
Fe symudwn ni ymlaen, nawr, at eitem 5, sef datganiadau 90 eiliad. Jayne Bryant.
Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 6, sef cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17 mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y...
Fe symudwn ni ymlaen, felly, at eitem 7, sef cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau cydgrynhoi. Dwi unwaith eto yn galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i...
Symudwn ni ymlaen at eitem 8 ar ein hagenda, sef dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y gwasanaeth iechyd gwladol. Dwi'n galw ar Mabon ap...
Symudwn ni ymlaen, felly, i eitem 9, sef dadl ar ddeiseb P-06-1359 a deiseb P-06-1362 ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack...
Mae eitem 10 wedi'i gohirio.
Felly, eitem 11 sydd nesaf, sef dadl ar adroddiad y pwyllgor diwylliant ar 'Y tu ôl i'r llenni: Gweithlu'r diwydiannau creadigol'. Cadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r ddadl yma—Delyth Jewell.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Luke Fletcher. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 13 sydd nesaf ar ddarlledu rygbi'r chwe gwlad. Tom Giffard i wneud y cynnig yma ar ran y Ceidwadwyr.
Fe wnawn ni nawr gyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais. Felly, fe fydd y bleidlais gyntaf ar eitem 8, sef y ddadl ar gynnig...
Fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r ddadl fer.
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch effaith technoleg adnabod wynebau ar gyfiawnder yng Nghymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur sut y mae'r Siarter Budd-daliadau Cymru newydd yn gwella mynediad at fudd-daliadau yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia