Mawrth, 30 Ionawr 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Jayne Bryant.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fantoli eu cyllidebau yng Ngorllewin Casnewydd? OQ60632
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd â chlefyd Crohn a cholitis yn cael diagnosis mor gyflym â phosibl? OQ60621
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion sy'n wynebu digartrefedd yng Nghanol De Cymru? OQ60591
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu'r economi gydweithredol? OQ60628
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hawliau o ran datblygu a ganiateir yng Nghymru? OQ60592
6. Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i gyhoeddiad Ofcom y gallai'r Post Brenhinol leihau sawl gwaith y dosberthir llythyrau i dri diwrnod yr wythnos? OQ60613
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau'r GIG yn Islwyn? OQ60633
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o sut mae elw gormodol mewn rhai sectorau o’r economi yn effeithio ar drigolion Cymru? OQ60618
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cyhoeddiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Eitem 3, felly, fydd yr eitem nesaf. Datganiad gan y Prif Weinidog yw hwn ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Felly, y Prif Weinidog.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Papur Gwyn ar gyfer Bil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau...
Fe symudwn ymlaen nawr i ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gofio'r Holocost. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—Jane Hutt.
Rydym bellach yn symud ymlaen at eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru ar BlasCymru/TasteWales.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, felly, awn ni ymlaen at gyflwyniad y cynnig gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Fe fyddwn ni'n pleidleisio nawr oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch. Does neb eisiau gwneud hynny. Mae'r gyfres o bleidleisiau gyntaf ar eitem 7, sef dadl ar adroddiad blynyddol...
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi canol trefi yng Ngogledd Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia