Mercher, 17 Ionawr 2024
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau y prynhawn yma fydd gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud wrth weithio gydag awdurdodau lleol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddatgarboneiddio cartrefi? OQ60521
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella gorsaf drenau Rhiwabon? OQ60504
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr heddiw, Natasha Asghar.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad diweddaraf o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)? OQ60526
4. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i sicrhau tai digonol a rhent teg i bobl Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl? OQ60528
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno gwaith ôl-osod mewn tai cymdeithasol? OQ60534
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd dŵr ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60499
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu argaeledd tai cymdeithasol yng Nghwm Cynon? OQ60497
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bws TrawsCymru? OQ60517
Yr eitem nesaf, felly, bydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi myfyrwyr ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ60508
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion? OQ60498
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ysgol i gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol? OQ60533
4. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r toriadau addysg a nodir yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth yn effeithio'n anghymesur ar y plant mwyaf agored i niwed? OQ60500
Rwy’n ddiolchgar i chi, Lywydd.
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu ysgolion yn y flwyddyn i ddod? OQ60516
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer newidiadau i wyliau ysgol yng Nghymru? OQ60501
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae'r cyntaf heddiw i'w ateb gan Weinidog yr Economi, ac i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael mewn perthynas â dyfodol cwmni Gwynedd Shipping? TQ949
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi ymateb i argymhelliad unfrydol Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y dylai fod gan Lywodraeth Cymru...
Does yna ddim datganiadau 90 eiliad yr wythnos yma.
Felly, yr eitem nesaf fydd y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ar Fil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc. Ac mae hwn i'w gyflwyno gan Delyth Jewell.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Mabon ap Gwynfor. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidlesio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni'n syth i'r pleidleisiau. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r bleidlais ar eitem 5, y ddadl ar...
Os gwnaiff Aelodau yn y Siambr adael yn dawel, mae'r ddadl fer heddi i'w chyflwyno gan Gareth Davies.
Pa gymorth sydd ar gael i bobl ym Mlaenau Gwent a allai fod yn cael trafferth gyda chostau ynni y gaeaf hwn i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi dysgwyr ôl-16 sydd ag anableddau dysgu?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi preswylwyr yr effeithir arnynt gan lifogydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia