Mawrth, 27 Mehefin 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi perchnogion tai yn Nwyrain De Cymru sy'n wynebu taliadau morgais uwch? OQ59749
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo datblygu economaidd yng nghanolbarth Cymru? OQ59767
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ystâd y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ59737
4. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r manteision o gyflwyno dyletswydd sifig i bleidleisio mewn etholiadau Cymreig? OQ59747
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cleifion sydd wedi cael mynediad at apwyntiadau gyda deintyddion y GIG yn 2022-23? OQ59734
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant treialu sesiynau cyfoethogi ychwanegol yn ysgolion Cymru? OQ59766
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl â nam ar eu golwg? OQ59728
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd? OQ59741
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad busnes gan y Trefnydd. Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol, ac felly, y Prif Weinidog.
Mae'r eitem nesaf ar yr agenda wedi'i gohirio tan 4 Gorffennaf.
Felly, nesaf yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar ddiwygio'r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y...
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaglen imiwneiddio genedlaethol i Gymru. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan, i wneud y datganiad.
Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Eitem 8 sydd nesaf, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, diweddariad ar ddeddfwriaeth amgylchedd bwyd iach. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle.
Yr eitem nesaf yw eitem 9, sef y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig yma—Jeremy...
Eitem 10 sydd nesaf. Y cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yw hwn, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig.
Eitem 11 sydd nesaf: y datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi. Felly, y Gweinidog, Lesley Griffiths.
Mae hynny'n ein harwain at eitem 12, sef Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), a'r Gweinidog, felly, i wneud y cynnig yma—Lesley Griffiths.
Eitem 13 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein. Y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i wneud y cynnig yma, Dawn Bowden.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, byddwn ni yn symud yn syth i'r bleidlais. Felly, fe fydd y bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar...
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia