Mercher, 21 Mehefin 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 12:45 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd a'r Senedd Ieuenctid ar y cyd.
Gwnawn ni ailddechrau nawr. Yr eitem gyntaf nesaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ac ieuenctid eraill ynghylch dod â noeth-chwilio plant i ben, yn dilyn yr argymhelliad yn...
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn sir Drefaldwyn? OQ59693
Llefarwyr y pleidiau nesaf. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
3. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu canllawiau i fynd i'r afael â phryderon am y berthynas rhwng rhannu data a pharodrwydd goroeswyr trais ar...
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod tosturi yn cael ei gynnwys mewn systemau cymorth i bobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru? OQ59708
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae undebau credyd yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru? OQ59701
6. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael ag allgáu digidol? OQ59689
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu darpariaeth heddlu cymunedol yn Sir Ddinbych? OQ59715
8. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu ynghylch mynd i'r afael â masnachu pobl yn ne Cymru? OQ59688
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch mesurau trawsbynciol i'w cynnwys yn y strategaeth tlodi plant wedi'i diweddaru? OQ59710
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Chymdeithas yr Ynadon ynghylch profiad pobl ifanc o'r system lysoedd? OQ59712
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch yr effaith a gaiff y gwelliannau a wnaed i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2023 ar Gymru? OQ59717
Llefarydd y Ceidwadwyr nawr i ofyn cwestiwn, Mark Isherwood.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan Brexit ar gyfer polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru? OQ59716
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r nifer sy'n pleidleisio yng Nghymru? OQ59707
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ac amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r Senedd? OQ59679
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y trefniadau gweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ59718
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y caiff y gwahaniaeth rhwng systemau adnabod pleidleiswyr a systemau cofrestru yn etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau yng...
8. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r angen am gywirdeb ac eglurder yn y termau a ddefnyddir i ddisgrifio trefniadau awdurdodaeth yn y dyfodol? OQ59681
Eitem 4 y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Ac, yn gyntaf, Heledd Fychan.
1. Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddatrys yr anghydfod llafur gydag undeb y PCS? OQ59703
2. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda bwrdd taliadau annibynnol y Senedd? OQ59697
3. Pa gamau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i wella ymgysylltiad y Senedd â'r cyhoedd yng Nghymru? OQ59698
4. Pa baratoadau sy'n cael eu gwneud gan y Comisiwn ar gyfer diwygio etholiadol y Senedd erbyn 2026? OQ59691
5. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith costau cynyddol ar allu plant ysgol i ymweld â'r Senedd? OQ59706
6. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynlluniau i ddod â gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan gontractwyr allanol yn fewnol? OQ59682
8. Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hyfforddiant CPR a diffibriliwr i Aelodau o'r Senedd a staff Comisiwn y Senedd? OQ59678
9. Pa gynnydd y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ran lleihau faint o wastraff bwyd a gynhyrchir ar ystâd y Senedd eleni o'i gymharu â'r cyfnod cymharol y llynedd? OQ59711
Eitem 5 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.
2. Yn sgil datgeliadau diweddar, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch faint o aelodau o genhedlaeth Windrush o Gymru ag afiechyd cronig a meddyliol a...
3. Pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gydag ysgolion i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch dŵr yn dilyn y boddi trasig ger pier Aberafan nos Lun? TQ802
Ac felly, yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad. Y datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Tom Giffard.
Mae eitem 7 wedi'i ohirio.
Mae hynny'n dod â ni at eitem 8, a hon yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth. Cadeirydd y Pwyllgor, felly, i gyflwyno'r ddadl. Russell George.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Reit, bydd y bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 9, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn...
Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Joel James i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganodd.
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu eu cael â'r Prif Ustus newydd ynghylch datganoli cyfiawnder?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd costau byw yn ei chael ar dlodi yn Rhondda y gaeaf hwn?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia