Mawrth, 20 Mehefin 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog merched i mewn i addysg a gyrfaoedd STEM? OQ59722
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i ddod yn fwy ecogyfeillgar? OQ59694
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
3. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaeth? OQ59687
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd yr argyfwng bysiau cyhoeddus presennol yn ei chael ar ddarpariaethau'r Mesur teithio gan ddysgwyr? OQ59705
5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r sector tai rhent preifat am weddill tymor y Senedd hon? OQ59676
6. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tai yng Ngogledd Cymru? OQ59723
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi goroeswyr strôc? OQ59675
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Qatar Airways ynghylch dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd? OQ59677
Symudwn ymlaen at y datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths.
Eitem 3 yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y rhaglen Cartrefi Clyd. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar fesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol. Galwaf ar y Gweinidog, Julie Morgan.
Mae eitem 6 wedi ei ohirio.
Eitem 7 sydd nesaf, felly, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar lansio '111 dewis 2' ar gyfer iechyd meddwl brys. Felly, y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle.
Felly, eitem 8 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Felly, y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Hannah Blythyn.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 9, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol. Y Dirprwy Weinidog sy'n cyflwyno'r cynnig yma. Dawn Bowden.
Eitem 10 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon. Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd yn gwneud y cynnig yma. Jane Hutt.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y Cyfnod Adrodd ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), ac mae un gwelliant wedi ei gynnig yn y Cyfnod Adrodd yma ar gyfer y Bil amaethyddiaeth, ac mae'r gwelliant hynny yn...
Nawr, fe awn ni ymlaen i'r cyfnod pleidleisio ar gyfer gweddill y pleidleisiau y prynhawn yma. Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a...
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia