Mercher, 14 Mehefin 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Ar y cychwyn fan hyn, hoffwn hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) wedi cael Cydsyniad...
Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joel James.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y gweithwyr GIG sydd wedi cael mynediad at hyfforddiant drwy Academi Cymru? OQ59633
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am adeiladau gwag sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon? OQ59634
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Sam Rowlands.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru ynghylch eu defnydd o bwerau benthyca i ariannu prosiectau cyfalaf? OQ59646
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr angen i ddyrannu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi trigolion bregus? OQ59662
5. Beth yw asesiad cyfredol Llywodraeth Cymru o gynnydd o ran cydweithio rhwng awdurdodau lleol? OQ59652
Gan barhau â'r thema hon—
7. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen buddsoddi i arbed? OQ59628
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hwyluso'r gwaith o rannu arfer gorau a gwybodaeth rhwng cynghorau? OQ59656
9. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu â phreswylwyr ac yn cyfathrebu â hwy? OQ59631
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu a rheoli bywyd gwyllt ym Mro Morgannwg? OQ59645
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru? OQ59655
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
3. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i sioeau amaethyddol yn Nwyrain De Cymru? OQ59657
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu a gwella bywyd gwyllt ar hyd cyrsiau dŵr yng Ngorllewin De Cymru? OQ59648
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) ar...
6. Sut mae'r Gweinidog yn helpu busnesau amaethyddol i arallgyfeirio? OQ59637
7. A wnaiff y Gweinidog ymateb i adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar gyllid y rhaglen datblygu gwledig a ddyrannwyd sydd heb ei wario? OQ59663
8. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gadw primatiaid fel anifeiliaid anwes? OQ59629
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynaliadwyedd bwyd yng Nghymru? OQ59660
10. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau beth yw'r camau nesaf ar gyfer cyflwyno CCTV gorfodol mewn lladd-dai? OQ59653
12. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch twristiaeth mewn cymunedau gwledig? OQ59650
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn amserol heddiw, a'r ddau yn cael eu hateb gan y Gweinidog economi, ac mae'r cyntaf o'r rheini gan Jayne Bryant.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod cwmni parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ794
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau economaidd yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi ystadegau ONS mis Mehefin sy'n dangos patrwm o ddirywiad yng nghyfraddau cyflogaeth a...
Pwynt o drefn nawr gan Darren Millar.
Fe awn ni ymlaen, felly, i'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf gan Jack Sargeant.
Eitem 5 y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ymgyrch Warm This Winter. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Felly, mae'r bleidlais y prynhawn yma ar eitem 7, sef yr union ddadl rŷn ni newydd ei chlywed—[Torri ar draws.] Ie, ocê, mi ddof i at hynna nawr. Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr...
Fe fyddwn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer heddiw gan Delyth Jewell a gofynnaf iddi gyflwyno'r pwnc ar gyfer y ddadl fer.
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan...
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia