Mercher, 11 Gorffennaf 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli perthi yn yr haf? OAQ52485
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ynni'r môr yng ngogledd Cymru? OAQ52492
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â lleihau tlodi tanwydd ar draws Gorllewin De Cymru? OAQ52504
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ffyrdd o warchod anifeiliaid anwes? OAQ52499
5. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi morlyn llanw bae Abertawe, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog a chefnogi cynlluniau cynhyrchu ynni yng...
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynnig i gyfuno ac adolygu is-ddeddfwriaeth dosbarthiadau defnydd a datblygu cyffredinol a ganiateir? OAQ52507
7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd dros y 12 mis nesaf i gefnogi ffermwyr yng ngorllewin Cymru? OAQ52476
8. Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch cynigion amgen ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ52489
9. Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran mynd i'r afael â llygredd aer ym Mhort Talbot o fewn etholaeth Aberafan? OAQ52493
Felly, mae'r cwestiynau nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grantiau a ddarperir gan lywodraeth leol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52498
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl ddigartref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52495
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo diwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol? OAQ52500
4. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i dreialu dulliau pleidleisio newydd? OAQ52487
5. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwneud ar gyfer cynnal swyddfeydd post? OAQ52506
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid llywodraeth leol? OAQ52502
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gyfarfod diweddaraf gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ52503
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac y mae gan Jack Sargeant.
2. A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdriaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y llawdriniaethau hyn yn Lloegr? 201
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon? 203
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac mae un datganiad gan Andrew R.T. Davies.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Galwaf ar...
Eitem 8 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?' a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, i wneud y cynnig.
Nid oes gennym unrhyw eitemau yn y cyfnod pleidleisio heddiw. Rwy'n cynnig ein bod yn gohirio am bum munud. Mae gennym rai problemau technoleg gwybodaeth, felly byddwn yn gohirio am bum...
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Rhun.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gall y system gynllunio gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i leihau costau llywodraeth leol?
Pa darged sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer twf amaeth organig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli gwastraff mewn ardaloedd hamdden awyr agored?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia