‘Rhan 2A - Gwahardd gwahaniaethuRhan 2A

Renters (Reform) Bill – in a Public Bill Committee am 3:00 pm ar 28 Tachwedd 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

8A Gwahardd gwahaniaethu yn ymwneud â phlant

(1) Mae’n drosedd i berson perthnasol, mewn perthynas ag annedd sydd i fod yn destun contract meddiannaeth—

(a) ar y sail y byddai plentyn yn byw gyda pherson neu’n ymweld â pherson yn yr annedd pe bai’r annedd yn gartref i’r person, atal y person rhag—

(i) ymholi a yw’r annedd ar gael i’w rhentu,

(ii) cael mynediad at wybodaeth am yr annedd,

(iii) gweld yr annedd er mwyn ystyried a ddylai geisio ei rhentu, neu

(iv) sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu sicrhau bod contract o’r fath yn cael ei adnewyddu neu ei barhau, neu

(b) cymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer er mwyn peri bod pobl a fyddai â phlentyn yn byw gyda hwy neu’n ymweld â hwy yn yr annedd yn llai tebygol o sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu’n llai tebygol o sicrhau bod contract o’r fath yn cael ei adnewyddu neu ei barhau na phobl a fyddai heb blentyn yn byw gyda hwy neu’n ymweld â hwy.

(2) Mae’n amddiffyniad i’r person perthnasol brofi bod yr ymddygiad yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys.

(3) Mae’n amddiffyniad i’r person perthnasol brofi bod darpar landlord yr annedd, neu berson a fyddai’n uwchlandlord mewn perthynas â’r annedd, wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a) nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(b) sy’n cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd neu sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r landlord gyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract wneud hynny,

a bod yr ymddygiad yn fodd i atal y darpar landlord rhag torri’r teler hwnnw.

(4) Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8B Gwahardd gwahaniaethu yn ymwneud â statws o ran budd-daliadau

(1) Mae’n drosedd i berson perthnasol, mewn perthynas ag annedd sydd i fod yn destun contract meddiannaeth—

(a) ar y sail bod person yn hawlydd budd-daliadau, atal y person rhag—

(i) ymholi a yw’r annedd ar gael i’w rhentu,

(ii) cael mynediad at wybodaeth am yr annedd,

(iii) gweld yr annedd er mwyn ystyried a ddylai geisio ei rhentu, neu

(iv) sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu sicrhau bod contract o’r fath yn cael , ei adnewyddu neu ei barhau, neu

(b) cymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer er mwyn peri bod hawlyddion budd-daliadau yn llai tebygol o sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu’n llai tebygol o sicrhau bod contract o’r fath yn cael ei adnewyddu neu ei barhau na phobl nad ydynt yn hawlyddion budd-daliadau.

(2) Mae’n amddiffyniad i’r person perthnasol brofi bod darpar landlord yr annedd, neu berson a fyddai’n uwchlandlord mewn perthynas â’r annedd, wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a) nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(b) sy’n cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract ar yr annedd rhag bod yn hawlydd budd-daliadau,

a bod yr ymddygiad yn fodd i atal y darpar landlord rhag torri’r teler hwnnw.

(3) Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8C Eithriad ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau etc

Nid yw ymddygiad yn gyfystyr a throsedd o dan adran 8A(1) nac adran 8B(1) os nad yw ond yn cynnwys—

(a) un neu ragor o’r pethau a ganlyn a wneir gan berson nad yw’n gwneud dim mewn perthynas â’r annedd sydd heb ei grybwyll yn y paragraff hwn—

(i) cyhoeddi hysbysiadau neu ledaenu gwybodaeth;

(ii) darparu cyfrwng y gall darpar landlord gyfathrebu drwyddo yn uniongyrchol â darpar ddeiliad contract;

(iii) darparu cyfrwng y gall darpar ddeiliad contract gyfathrebu drwyddo yn uniongyrchol â darpar landlord, neu

(b) pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau.

8D Parhau i dorri gwaharddiad ar ôl cosb benodedig

(1) Mae person yn cyflawni trosedd—

(a) os oes hysbysiad cosb benodedig wedi ei roi i’r person o dan adran 13 am drosedd o dan y Rhan hon mewn perthynas ag annedd ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl, a

(b) os yw’r ymddygiad y rhoddwyd yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad ag ef yn parhau mewn perthynas â’r annedd honno ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan adran 13.

(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8E Ailadrodd tor gwaharddiad ar ôl cosb benodedig

(1) Mae person yn cyflawni trosedd—

(a) os oes hysbysiad cosb benodedig wedi ei roi i’r person o dan adran 13 am drosedd o dan y Rhan hon ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl, a

(b) os yw’r person yn cyflawni trosedd arall o dan yr un adran o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan adran 13.

(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8F Telerau mewn uwchlesau yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau

(1) Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les—

(a) gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd, neu

(b) cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

(ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(2) Nid yw is-adran (1) yn gymwys—

(a) os yw’r gofyniad yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys, neu

(b) os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(i) nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(ii) sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd neu gyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(3) Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(4) Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a) nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(b) sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau,

a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(5) At ddibenion yr adran hon, mae telerau les yn cynnwys—

(a) telerau unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r les, a

(b) unrhyw ddogfen neu gyfathrebiad oddi wrth y landlord sy’n rhoi neu’n gwrthod cydsyniad i isosod o dan y les i gategori neu ddisgrifiad o berson.

8G Telerau mewn morgeisi yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau

(1) Nid yw teler mewn morgais ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r morgeisiwr—

(a) gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd, neu

(b) cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

(ond mae’r morgais yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(2) Nid yw teler mewn morgais ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r morgeisiwr wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r morgais yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

8H Telerau mewn contractau yswiriant yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau

(1) Nid yw teler mewn contract yswiriant y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio—

(a) gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd sy’n destun contract meddiannaeth, neu

(b) cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd sy’n destun contract meddiannaeth,

(ond mae’r contract yswiriant yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(2) Nid yw teler mewn contract yswiriant y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract annedd sy’n destun contract meddiannaeth rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r contract yswiriant yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(3) Mae’r adran hon yn gymwys i gontractau yswiriant a wnaed neu yr estynnwyd eu cyfnod ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

8I Dim gwaharddiad ar roi ystyriaeth i incwm

Nid oes dim yn y Rhan hon yn gwahardd rhoi ystyriaeth i incwm person wrth ystyried a fyddai’r person hwnnw yn gallu fforddio talu rhent o dan gontract meddiannaeth.

8J Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio Rhan 2A

Caiff rheoliadau ddiwygio’r Rhan hon er mwyn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â phersonau o ddisgrifiad arall, sy’n cyfateb, gydag addasiadau neu hebddynt, i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon mewn perthynas â phersonau a fyddai â phlentyn yn byw gyda hwy neu’n ymweld â hwy neu bersonau sy’n hawlyddion budd-daliadau.

8K Dehongli Rhan 2A

Yn y Rhan hon—

mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

ystyr “darpar ddeiliad contract” (“prospective contract-holder”) yw person sy’n ceisio dod o hyd i annedd i’w rhentu o dan gontract meddiannaeth;

ystyr “darpar landlord” (“prospective landlord”) yw person sy’n bwriadu gosod annedd o dan gontract meddiannaeth;

ystr “hawlydd budd-daliadau” (“benefits claimant”) yw person sydd â hawl i gael taliadau o dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu Ddeddf Diwygio Lles 2012 neu yn rhinwedd y deddfau hynny, neu a fyddai â hawl o’r fath pe bai’r person yn dod yn ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw—

(a) y darpar landlord;

(b) person sy’n gweithredu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar ran y darpar landlord neu sy’n honni ei fod yn gweithredu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar ran y darpar landlord;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed.’

(4) In section 10(4)—

(a) after the opening words insert—

‘(za) mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 2A—

(i) person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;

(ii) person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;

(iii) person sy’n berson perthnasol mewn perthynas â chontract meddiannaeth neu sydd wedi bod yn berson perthnasol mewn perthynas â chontract o’r fath;

(zb) mewn cysylltiad â throsedd o dan unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon—’;

(b) paragraphs (a) to (c) become paragraphs (i) to (iii) of paragraph (zb).

(5) After section 10(4) insert—

‘(4A) Yn is-adran (4)—

mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

mae i “person perthnasol” (“relevant person”) yr ystyr a roddir yn adran 8K.’

(6) In section 13(1) after ‘3’ insert ‘neu Ran 2A’.

(7) In section 17—

(a) after subsection (3) insert—

‘(3A) At ddibenion y Rhan hon fel y mae’n ymwneud â throseddau o dan Ran 2A, mae awdurdod pwysau a mesurau lleol yn awdurdod gorfodi ychwanegol mewn perthynas â’r ardal y mae’n awdurdod pwysau a mesurau lleol ar ei chyfer.’;

(b) in subsection (4) the words from ‘ystyr’ to the end become a definition;

(c) at the end of subsection (4) insert—

‘mae i “awdurdod pwysau a mesurau lleol” yr ystyr a roddir i “local weights and measures authority” gan adran 69(2) o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985.’”

(8) In section 27(3) after ‘adran 7,’ insert ‘adran 8C, adran 8J,’.”—

This new clause is expected to be part of a new Chapter 2B of Part 1 of the Bill and inserts a new Part 2A into the Welsh language text of the Renting Homes (Fees etc.) (Wales) Act 2019 which bans landlords and those who act on their behalf or purport to do so from adopting certain discriminatory practices which make it harder for people who have children (or have children visit them), or who are benefits claimants, to enter an occupation contract. Occupation contracts relate to Wales only and were provided for by the Renting Homes (Wales) Act 2016. Amendment NC49 amends the English language text. Other amendments make similar provision for England.

Brought up, read the First and Second time, and added to the Bill.