A gaf i ddiolch i Mike Hedges am hynna? Llywydd, mae bob amser yn dda cael sgwrs a thrafodaeth ynghylch rhaglenni sgiliau gyda Mike Hedges, rhywun sy'n deall y diwydiant ac sy'n dod o'r diwydiant gweithgynhyrchu. Bydd yn falch, rwy'n siŵr, o glywed y byddaf i yn Abertawe ddydd Iau, yn dathlu'r cyflawniadau drwy'r rhaglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, Cystadleuaeth Sgiliau Cymru,...
Diolch i John Griffiths am hynna. Fe wnaf ymateb i'r pwynt ar bobl ifanc 14 i 16 oed yn gyntaf. Llywydd, rwy'n cofio pan oeddwn i yr oedran hwnnw, cymerais ran mewn menter gynnar iawn o'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn brentisiaeth iau nawr, gyda choleg Glannau Dyfrdwy ar y pryd—rwy'n credu mai'r rhaglen 'cyswllt ysgol' oedd hi—ac roeddwn i'n gweld hynny'n amhrisiadwy. Roedd mynd bob...
Rwy'n ddiolchgar i Luke Fletcher am y ffordd y nododd ei ymrwymiad i gefnogi pobl ifanc. Mae'n sôn am y ffigur un o bob 10 lle mae angen mwy o weithredu. Wel, dyna pam, unwaith eto, Llywydd, y gwnaethom ni ddechrau'r warant i bobl ifanc, i gael mynediad i'r lleoedd anodd eu cyrraedd hynny, a byddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y ffordd honno. Os edrychwch chi ar y duedd o ran lle mae NEET, a'r...
Mwy o ymddangosiadau diweddar Jack Sargeant
RSS feed (?)Nodyn ar gyfer newyddiadurwyr ac ymchwilwyr: gellir defnyddio'r data ar y dudalen hon yn rhydd, ar yr amod bod TheyWorkForYou.com yn cael ei ddyfynnu fel y ffynhonnell.
Cynhyrchwyd y data yma gan TheyWorkForYou o amrywiaeth o ffynonellau.
Am esboniad o ddisgrifiadau'r bleidlais, gweler ein tudalen am gwybodaeth bleidleisio ar TheyWorkForYou.
Llun proffil: © Senedd (CC-BY 4.0)