Byddaf i'n ymateb, fel bob amser, i gynigion adeiladol y Pwyllgor Cyllid i weld sut y gallwn ni wneud mwy o gynnydd yn y maes hwnnw. Mae nifer o gyd-Aelodau, Llywydd, wedi sôn am y MEG Trafnidiaeth, a hoffwn i hefyd, fel yr Ysgrifennydd Cyllid, fod mewn sefyllfa fwy sefydlog nag yr ydyn ni o ran buddsoddi mewn rheilffyrdd. Byddwn i'n gofyn i'r Aelodau ochel rhag bod â golwg rhy syml ar sut...
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Diolch yn enwedig i Gadeirydd y pwyllgor. Dwi'n cytuno, wrth gwrs. Bob tro, rŷn ni'n edrych am ffyrdd i symleiddio pethau sy'n gymhleth, sy'n dechnegol, a ble mae lot o bethau yn symud, yn enwedig pan ŷn ni'n dod at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Dirprwy Lywydd, nid dim ond bygwth cenedlaethau'r dyfodol mae newid hinsawdd; mae'n effeithio ar y ffordd rydym ni'n byw heddiw. Dyna pam mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym ni'n teithio a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn eto eleni i helpu awdurdodau lleol i ymateb i stormydd Bert a Darragh. Mae £10 miliwn o gymorth brys wedi ei adlewyrchu yn y penderfyniadau sydd o'ch...
Mwy o ymddangosiadau diweddar Mark Drakeford
RSS feed (?)Nodyn ar gyfer newyddiadurwyr ac ymchwilwyr: gellir defnyddio'r data ar y dudalen hon yn rhydd, ar yr amod bod TheyWorkForYou.com yn cael ei ddyfynnu fel y ffynhonnell.
Cynhyrchwyd y data yma gan TheyWorkForYou o amrywiaeth o ffynonellau.
Am esboniad o ddisgrifiadau'r bleidlais, gweler ein tudalen am gwybodaeth bleidleisio ar TheyWorkForYou.
Llun proffil: © Senedd (CC-BY 4.0)